Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

                                                                                                       

 

Mark Drakeford AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Llywodraeth Cymru

Llawr 5

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

13 Mai 2013

 

 

 

 

 

 

 

 

                                          

Annwyl Weinidog

 

CLA235 – Rheoliadau Bwyd (Diwygio Amrywiol a Dirymu) (Cymru) 2013

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr Offeryn Statudol uchod yn ystod ei gyfarfod ar 15 Ebrill 2013 a chytunodd y dylwn ddwyn i'ch sylw adroddiad y Pwyllgor a wnaed o dan Reol Sefydlog 21.3 ar rinweddau'r Offeryn. 

 

Er ein bod yn fodlon yn gyffredinol â'r offeryn ac nad ydym wedi cyflwyno adroddiad yn ei gylch, roedd gennym rai pryderon am y Memorandwm Esboniadol, ac yn benodol, am y diffyg gwybodaeth a geir ynddo am sut y mae'r Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 sy'n bod eisoes yn darparu'r un warchodaeth i'r cyhoedd â'r rheoliadau amrywiol sy'n cael eu dirymu.

 

Yn ein barn ni, wrth ddirymu deddfwriaeth sy'n berthnasol i ddiogelwch bwyd oherwydd dyblygu deddfwriaethol, byddai'n ddefnyddiol, ac yn darparu sicrwydd pe baem yn cael eglurhad pendant ynghylch sut y parheir i warchod diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd i'r un lefel gan y ddeddfwriaeth sy'n dal mewn grym.

 

Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ystyried y pwyntiau hyn ac yn anfon eich ymateb i'r Pwyllgor maes o law. 

 

Yn gywir

David Melding AC

Cadeirydd